Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Riportiwch sŵn gan gymdogion
Diolch.
Byddem bob amser yn argymell eich bod yn cael gair cyfeillgar gyda’ch cymydog yn gyntaf oherwydd efallai nad yw ef neu hi yn ymwybodol bod y sŵn yn achosi niwsans. Ceisiwch ddod i gyfaddawd os gallwch.
Os nad yw hyn yn gweithio gallwch riportio cymydog wrth eich cyngor lleol. Bydd yn eich cynghori ynglŷn â’r camau nesaf.
Os ydych mewn tŷ cymdeithasol, gall eich darparwr tai hefyd roi cymorth a chyngor i chi.